Dylid Dysgu Hanes Cymru Fod Yn Orfodol

‘Y ffordd fwyaf effeithiol i ddinistrio pobl yw gwadu a dileu eu dealltwriaeth nhw o’u hanes eu hunain” meddai George Orwell yn un o’i ddyfyniadau enwocaf.

Nid oes amheuaeth bod hwn yn berthnasol i Gymru hefyd. Dros ddegawdau, mae disgyblion yng Nghrymu wedi’u hamddifadu o ddysgu am hanes Cymru gan fod cwricwla'r gorffennol wedi eu gwreiddio mewn persbectif Prydeinig ac felly wedi rhoi’r ffocws ar ddigwyddiadau Saesneg nid rhai Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy gyflwyno cwricwlwm newydd sy’n gadael y cyfrifoldeb dros fformwleiddiad y cwricwlwm gydag yr ysgolion eu hunain ac nid gyda’r wladwriaeth. Er ei bod yn wir fod y cynllun yma yn cynnig cyfleoedd, mae hi hefyd yn agored i anghysondebau. Mae’n ddigon posib bydd rhai disgyblion yn derbyn addysg drylwyr yn Hanes Cymru, tra bydd disgyblion eraill ddim. Mae’n loteri.

Mae rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol, megis addysg grefyddol ag addysg rhyw, bydd yn caniatáu i ddisgyblion ar draws Cymru ddysgu am berthnasoedd iach. Ond ni fydd yn wir am hanes Cymru. Mae’r ymreolaeth bydd gan athrawon ynghylch yr hyn y byddant yn dysgu yn syniad da mewn theori, ond mae prinder adnoddau megis tanariannu ysgolion, prinder staff yn ogystal â phrinder adnoddau, llyfrau a gwybodaeth am hanes Cymru yn rhoi llawer o bwysau ar y proffesiwn addysg. Mae’n annhebygol bydd athrawon yn gallu dod o hyd i’r amser i ail-lunio cynnwys cwrs hanes ac felly byddent yn troi at adnoddau a chynlluniau gwersi sydd a’r gael eisoes. Beth fydd yn newid?

 

Dadl

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Plaid Cymru ddadl yn y Senedd a alwodd am gamau i orfodi dysgu Hanes Cymru fel rhan o’r cwricwlwm newydd, gyda phwyslais ar hanes BAME a gwrth-hiliaeth fel rhan hanfodol o’r cwricwlwm. Dywedodd Siân Gwenllian AS: “Bydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am wrth-hiliaeth ag amrywiaeth Cymru – ac y gallant weld y byd trwy ffenest y wlad ble maent yn byw – Cymru”.

Fodd bynnag, roedd yn siomedig gweld bod methodd y pleidiau eraill ar draws siambr y Senedd gefnogi’r cynnig gwreiddiol ond derbyniwyd cynnig hwyrach gyda newidiadau.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo sefydlu grŵp gweithio i oruchwylio datblygiad adnoddau dysgu yn ogystal ag addo gweithio gydag Estyn i sicrhau bod hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru a BAME yn cael eu cynnwys yn llawn yn y cwricwlwm, unwaith eto nid oes sicrwydd bydd agweddau o Hanes Cymru a Hanes BAME yn orfodol.

 

Gweithredu Radical

Nid yw’r sgwrs yma yn digwydd yn y Senedd yn unig. Mae Elfed Wyn Jones, ymgyrchwr ar lawr gwlad ag aelod o Plaid Ifanc, wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd ynghylch elfen statudol o Hanes Cymru yn cael ei ddysgu  mewn ysgolion. Yn dilyn dwy ddeiseb a nifer o sgyrsiau gyda gweinidogion, mae Elfed wedi mynnu bod angen cymryd mwy o gamau i sicrhau bod gan bob disgybl yng Nghymru'r cyfle i ddysgu am hanes y wlad. Mae Elfed hyd yn oed wedi nodi ei fod yn barod i fynd ar streic newyn er mwyn sicrhau’r newid yma. Mae gennym ni gyfle unwaith mewn oes, gobeithiwn bydd y Llywodraeth yn gwrando ar y galwadau yma mewn un ffordd neu’r llall. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mollie Williams
    published this page in Newyddion 2020-07-08 12:56:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.