Heddiw, rydym yn lansio’r etholiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith newydd Plaid Ifanc
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi bod yn bleser cael bod yn un o gyd-gadeiryddion Plaid Ifanc ochr yn ochr â Sioned, ac rwyf yn edrych ymlaen at sefyll unwaith eto i barhau i adeiladu ar y gwaith gwych rydym eisoes wedi gwneud.
Roeddwn i fod cynnal yr etholiad ar gyfer y Pwyllgor Gwaith newydd yn Llanrwst yn gynharach yn y mis - fodd bynnag fel gyda nifer o bethau eraill (fel ein trip Pasg a’r orymdaith AUOB dros annibyniaeth yn Wrecsam y penwythnos yma) roedd yn rhaid i ni ohirio ag yna canslo’r digwyddiad oherwydd y Pandemig Cofid-19.
Rhai wythnosau yn ôl fe gyhoeddwn ein bod yn ceisio ymchwilio i mewn i’r cyfle i barhau gyda’r etholiad ac i gynnal digwyddiad ‘Democratiaeth Ddigidol’ - ble buaswn yn ystyried faint o’r digwyddiadau oedd wedi’u cynllunio ar gyfer ein cynhadledd y gallwn fwrw ymlaen â’u cynnal nhw ac fe hoffaf gymryd y cyfle hwn i fanylu ar ein cynlluniau i chi.
-
Etholiad y Pwyllgor Gwaith.
Gwahoddir pob aelod Plaid Cymru o dan 30 i gofrestru i bleidleisio yn etholiad y pwyllgor gwaith ‘Democratiaeth Ddigidol’ sydd ar y gweill - gallwch gofrestri YMA a dylai pobl aelod cymwys wedi derbyn e-bost yn cynnwys mwy o wybodaeth! Yn ogystal â hyn, gwahoddir pob aelod cymwys i gyflwyno maniffesto ysgrifenedig ac ar fideo i holl safleoedd y Pwyllgor Gwaith, os hoffant gymryd mwy o ran yn ein mudiad.
Bydd cofrestru yn cau am 23:59 ar y 30/04/2020
Mae’n bwysig i ni bwysleisio bod RHAID i chi gofrestru cyn y terfyn y cyfnod cofrestru er mwyn bod yn gymwys i sefyll ar gyfer yr etholiad neu i bleidleisio ynddi.
-
Digwyddiadau Ffrwd Byw ‘Etholiad Lockdown’.
Rydym yn dymuno agor y cyfnod pleidleisio pythefnos yn hwyrach gyda digwyddiad ffrwd byw - byddwn yn adolygu’r maniffestos ar fideo bydd wedi’u cyflwyno yn ogystal â sesiwn cwestiwn ag ateb gydag Aelod Cynulliad neu Seneddol Plaid Cymru (bydd y manylion cywir yn cael eu cadarnhau erbyn dyddiad cau'r cyfnod cofrestri i bleidleisio).
Yna bydd y cyfnod pleidleisio ar agor am 24 awr yna byddwn yn cynnal ail ddigwyddiad ffrwd byw sy’n cynnwys sesiwn cwestiwn ag ateb gydag aelodau’r pwyllgor gwaith presennol wnaeth benderfynu beidio sefyll ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yna byddwn yn cyhoeddi canlyniad yr etholiad.
Ffrwd Byw 1: 11:30.y.b 16/05/2020 (cyfnod pleidleisio yn agor am hanner dydd)
Ffrwd Byw 2: 12:00y.p. 17/05/2020 (y cyfnod pleidleisio yn cau yn syth)
Cadwch lygaid allan am fwy o wybodaeth bydd yn dilyn yn fuan.
-
Pethau newydd!
Fel y byddwch wedi sylwi - mae ein gwefan yn edrych tipyn yn wahanol. Mae’n wir, mae’r hen wefan “Wordpress” wedi gwasanaethu ni yn dda iawn ers cael ei lansio yn 2014, ond roedd hi’n bryd i ni adfywio ein gwefan. Felly rydym wedi cychwyn defnyddio system newydd bydd yn galluogi ni i gyfathrebu yn well gyda’n haelodaeth bresennol yn ogystal â’n helpu ni i dyfu’r mudiad wrth gamu ymlaen.Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi camau a phrosesau tu ôl y llenni i gynorthwyo’r pwyllgor gwaith i fod yn fwy cynhyrchiol - mae’r holl bwyllgor gwaith yn wirfoddolwyr ac felly rydym yn gweithio yn ein hamser sbâr, felly os gallwn arbed unrhyw amser i wario gyda’n teuluoedd â’n ffrindiau, y gorau gyd.
Yn olaf, eleni rydym wedi gwario rhan o’r arian cafwyd ei rhoi i ni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i greu a lansio ein tudalen rhoddion - gwariwyd yr arian ar greu ‘Bagiau Offer Rhanbarthol’ casgliad o offer i’n cynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac i dalu am gostau cynnal y digwyddiad ‘Democratiaeth Ddigidol’
Felly i gyd, mae gennym ychydig o offer newydd, gwefan newydd, pwyllgor gwaith newydd gyda ffordd newydd o ethol nhw, ond nid dyma’r diwedd, mae gennym lawer i wneud o hyd. Camau bach yw rhain ar ein taith i ennill Cymru newydd.
Gweithredwch. Ymunwch â ni.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter