“Cred y mwyafrif o aelodau ifanc y Blaid hon” meddais, gyda’m llais yn adleisio drwy neuadd y gynhadledd, “y bydd Brexit caled yn niweidiol i’n dyfodol”.
Gan edrych yn ôl dros wythnos yn ddiweddarach, rwy’n cofio sefyll yno yn chwys dan ofn y byddai rhywun yn ceisio dadlau yn erbyn y cynnig. “Ac er na fydd pawb yn cytuno ar hyn,” meddais gan fwrw ymlaen, “rydym yn cytuno ac yn mynnu’r hawl ddemocrataidd i fynegi unrhyw newid posibl mewn barn a hawl pobl ifanc 16 a 17 oed i fynegi eu barn yn iawn.”
Daeth y don gyntaf o gymeradwyaeth a teimlais rhyddhad llethol. Roedd pobl yn cytuno a mi. Ond gyda beth? Gyda’r syniad o bleidlais? Gyda cynnwys pobl 16 ac 17 yn y bleidlais honno? Neu a’i cytuno oedden nhw fod Brexit caled yn beth drwg? Nid wyf yn berson hyderus, rwy’n tybio fy mod yn anghywir ar bron pob achlyslur ac yn ei chael hi’n anodd i siarad dros unrhyw beth ond roedd hyn yn eithriad nodedig.
Ym Mhlaid Ifanc, rwy’n gwybod bod fy marn yn cael ei hystyried yn gyfartal a barn eraill ac rwyf yn hyderus yn mynegi fy marn yng nghwmni fy nghyfeillion Ifanc. Mae fy swydd ddyddiol yn y sector gweithgynhyrchu ac yn ystod y misoedd diwethaf mae llawer o ansicrwydd wedi bod yn sgil Brexit. Mae hyn yn wir mewn gwirionedd ar draws busnesau gweithgynhyrchu gwahanol. Mae gorchmynion wedi’u tynnu nol, prosiectau wedi’u gohirio neu eu canslo, a’r pencadlys wedi symud a gweld colli swyddi. Dyna wnaeth fy ngwthio i siarad dros hyn. Mae’n edrych fel ein bod yn wynebu ansicrwydd erchyll ‘Dim Bargen’.
Ar ddiwedd y dydd, bydd Brexit caled yn drychinebus i Gymru. Nid oedd hynny ar y papur pleidleisio nac ar ochr bws. Y ddadl yw gan fod un pleidlais wedi ei chynnal, mae’n rhaid atal democratiaeth tan ar ôl 29 Mawrth 2019. Y math yma o ddadlau wnaeth fy arwain at gynnig cynnig o blaid ‘Pleidlais y Bobl’ i gyngor cenedlaethol Plaid Ifanc wnaeth basio heb gael ei wrthwynebu.
Arweiniodd hyn at Blaid Ifanc i gefnogi cynnig tebyg a gyflwynwyd gan grŵp o aelodau etholedig Plaid Cymru yng nghynhadledd genedlaethol y Blaid.
Wrth i mi sefyll ar y llwyfan yn y gynhadledd a llygaid pawb arnaf, gorffenais drwy ddweud bod y blaid hon yn ymfalchïo yn gwrando ar farn pobl ifanc, gan ymbilio ar bobl i wrando ar leisiau pobl ifanc heddiw a phleidleisio o blaid y cynnig. Daeth ton arall o gymeradwyaeth a doedd dim dwywaith fod pawb yn cytuno.
Wrth i mi adael y llwyfan, clywais lais yn gofyn i’r gynulleidfa os oedd unrhyw un yn dymuno siarad yn erbyn a llamodd fy nghalon. Unrhyw eiliad nawr byddai rhywun yn codi i’r llwyfan ac yn rhwygo fy nadl i ddarnau bach. Ond na, neb.
Ni ellir dadlau felly bod Plaid Ifanc a Phlaid Cymru yn gweithredu’n ddemocrataidd trwy gefnogi galwadau am Bleidlais y Bobl.
Fe bleidleisiwyd drosto gan symudiad ieuenctid y blaid. Fe bleidleisiwyd drosto gan aelodaeth y blaid ehangach yn ei chynhadledd genedlaethol agored. Bellach mae’n hen bryd rhoi Brexit yn ôl ar y papur pleidleisio. A dyna yw ‘Ewyllys pobl’ y blaid hon – sef i gael pleidlais ar y fargen olaf.
Mae Morgan Bowler-Brown yn aelod o Blaid Ifanc o Gasnewydd. Mae hefyd yn gwasanaethu ar y PGC (2017-19) fel trysorydd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter