Sut mae peidio gadael i deimlo’n ddiymadferth ein hatal rhag gweithredu yn 2019? Yn y byd sydd ohoni sut allwn ni ymladd yn ol yn erbyn twf asgell dde a gwireddu Cymru annibynol fydd yn gwasanaethu ein pobl? Ein cyd-gadeirydd, Sioned Treharne sy’n amlinellu rhai addunedau gall pawb ei gwneud yn 2019…
Mae gweledigaeth Plaid Ifanc (fel gweledigaeth Plaid Cymru ei hun) wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd. Y gwerthoedd hyn sy’n sail i’n holl weithgarwch, ac sy’n llywio cyfeiriad ein mudiad. Yn anad dim arall, dyma’r hyn sy’n cymell ein haelodau i weithredu a chodi llais. Troi gwerthoedd yn weithred yw raison d’êtrePlaid Ifanc, ac mae ein haelodau diwyd yn brawf digamsyniol o hynny.
Er mai ein cryfder fel adain ieuenctid, yn ein barn ni, yw ein gweithredoedd, teimlasom ar drothwy blwyddyn newydd ei bod hi’n bryd ail-ymweld â’n gwerthoedd craidd. Mewn cyfnod o ansicrwydd ac amheuaeth, mae gennym ddyletswydd i ddatgan, yn agored, pwy ydym ni, a beth sy’n ein hysgogi.
Wedi hir bendroni, ystyried a chrisialu, dyma lunio’r pum delfryd isod.
- Cynrychioli ein cymunedau yn lleol ac yn genedlaethol, drwy fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.
- Meithrin perthynas dda â’n chwaer bleidiau yn Ewrop ac ar draws y byd.
- Hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, iaith a hil; ymwybyddiaeth amgylcheddol; hawliau pobl LDHT; a chyfiawnder cymdeithasol.
- Trafod pam dylai ein cenhedlaeth ni ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.
- Creu Cymru sy’n gallu sefyll ar ei thraed ei hun fel gwlad annibynnol.
Mewn sesiwn diweddar o Gyngor Cenedlaethol Plaid Ifanc, penderfynwyd hefyd y dylai’r mudiad…
…ail-ymroi’n gyhoeddus i gael cenedl annibynnol, ffeministaidd, cymdeithasol deg, amgylcheddol gynaliadwy a goddefgar, lle mae ein dinasyddion i gyd yn gallu cyrraedd eu llawn botensial, waeth beth fo’u cefndir.
Hoffem hefyd weld ein dinasyddion i gyd yn cyrraedd eu llawn botensial drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma yw ein gweledigaeth a’n delfryd ar gyfer ein cenedl.
Ond mae byw yn y byd go iawn yn gallu ein drysu a’n digalonni ar adegau, a’n gadael yn teimlo’n ddiymadferth.
Gydag atgasedd ac eithafiaeth adain dde yn ennill tir yng Nghymru ac ar draws Ewrop, nid yw’n syndod, mewn gwirionedd, nad yw pobl yn gwybod ble mae dechrau ar y gwaith o rwystro twf y fath gasineb.
O brofiad, dyma ambell ddarn o gyngor y dylai pobl ifanc (mewn oed ac mewn ysbryd…) eu cofio o ddydd i ddydd.
- Rho dy ffôn i lawr am gyfnod. Cymer amser i ddatgysylltu oddi wrth y cecru a’r swnian di-baid sydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Defnyddia bob cyfle i drafod dy syniadau gyda’th ffrindiau, dy deulu, a’r rhai nad wyt ti’n cytuno â nhw, hyd yn oed. Paid â dadlau â phobl ar y we; fyddi di byth yn eu hargyhoeddi. Cer am dro. Gwranda ar gerddoriaeth. Coda lyfr neu bapur newydd. Treulia amser yn dy addysgu dy hun ac yn llunio dy syniadau dy hun.
- Cer i wirfoddoli dy amser gyda phroject cymunedol lleol. Dyma’r enghraifft orau o werthoedd ar waith – teimlo dy fod yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol, go iawn i fywydau’r bobl o’th gwmpas.
- Os oes gen ti syniadau, gwiredda nhw. Os wyt ti’n teimlo y dylai rhywbeth fod ar gael ond nad ydyw, paid ag aros i rywun wneud hynny drosot – gwna’r gwaith caib a rhaw dy hun. Tro dy rwystredigaeth yn weithred bositif.
- Buddsodda mewn pobl. Cofia dreulio amser yn dod i adnabod cyfoedion a chydweithwyr, a deall yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Gwranda ar eu gofidion. Bydd yn gefnogol a chynnig dy gymorth pan fydd angen cynhaliaeth arnynt. Rhanna dy angerdd ag eraill.
- Bydd yn ymgorfforiad o’r gwerthoedd rwyt ti’n eu harddel. Cofia drin dy gefnogwyr a’th wrthwynebwyr, fel ei gilydd, â pharch. Cofia godi llais pan fyddi’n gweld anghyfiawnder – yn dy erbyn di, neu yn erbyn rhywun arall. Bydd â hyder yn dy allu i wneud gwahaniaeth mewn gweithred, bach neu fawr.
Efallai nad yw’r uchod yn cynnig atebion ar sut i wella economi neu isadeiledd Cymru, ac nid yw’n datrys ein holl heriau cymdeithasol chwaith. Ond o ddilyn y dulliau uchod, efallai y gallwn ni newid pethau – un cam ar y tro, un person ar y tro.
Mae Cymru’n dibynnu arnom i dorchi llewys – nawr yw’r adeg i wneud hynny.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter