Dim ond un AS Llafur bleidleisiodd o blaid cynnig gan Blaid Cymru yn Nhy’r Cyffredin ddoe, (20fed o Ionawr) yn galw ar lywodraeth y Wladwriaeth Brydeinig i gael gwared o system arfau niwclear Trident a fydd yn costio £100 biliwn i’w hadnewyddu dros y degawdau nesaf. Gwnaeth 7 AS Llafur bleidleisio’n frwdfrydig yn erbyn y cynnig, gan sefyll gyda’i cymrodyr yn y Blaid Geidwadol a UKIP o blaid eu hagenda llymder.
Mae’r Wladwriaeth Brydeinig yn un o 2 aelod yn unig o’r Undeb Ewropeaidd i fod yn berchen ar arfau niwcelar. Mae’n system ddrud sy’n costio dros £3 biliwn y flwyddyn, ac nid yw’n adlewyrchu natur amddiffyn a gwrthdaro yn yr unfed ganrif ar hugain. Y gwir yw y byddai hi yn erbyn cyfraith rhyngwladol i ddefnyddio arfau niwclear fel Trident.
Meddai Glenn Page, Cadeirydd Plaid Ifanc, “Mae’n gywilyddus bod Llafur Cymru yn cefnogi adnewyddu arfau niwclear di-ddim a di-dda. Rydym yn byw mewn gwlad lle mae miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd, lle mae dros 25% o blant yn cael eu geni i fewn i dlodi, lle mae diweithdra ieuenctid yn broblem cynyddol a lle nad oes un cilomedr o reilffordd wedi ei drydaneiddio. Does dim hygrededd yn perthyn i’r blaid Lafur ar degwch cymdeithasol.”
Pleidleisiodd yr ASau Llafur canlynol yn erbyn cynnig Plaid Cymru ddoe.
Wayne David (Caerffili)
Stephen Doughty (De Caerdydd a Phenarth)
Ian Lucas (Wrecsam)
Madeline Moon (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Owen Smith (Ysgrifenydd Cysgodol Cymru, Pontypridd)
Nick Smith (Blaenau Gwent)
Mark Tami (Alyn a Glannau Dyfrdwy)
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter