Wythnos diwethaf, ar ddydd Sadwrn y 9fed o Ebrill, cynhaliwyd Cynhadledd Genedlaethol Plaid Ifanc yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Gyda bron i 60 yn mynychu, hon oedd y gynhadledd fwyaf lwyddiannus erioed.
Cafwyd trafodaeth dda ar nifer o bynciau polisi – yn cynnwys gwladoli gwaith dur Port Talbot, recriwtio milwrol mewn ysgolion, argaeledd tamponau a thywelion misglwyf, ein ymgyrch #CymruRydd, seciwlariaeth, FGM, canolfannau dal ceiswyr lloches, hela llwynogod ac addysg wleidyddol. Pasiwyd 7 ohonynt a gwrthodwyd 2.
Yn ogystal â hyn, bu trafodaeth bwysig ar strwythr y mudiad ac fe fabwysiadwyd cyfansoddiad newydd sbon, a oedd yn cynnwys newid enw’r mudiad i ‘Plaid Ifanc’, lleihau’r pwyllgor gwaith ac ychwanegu strwythr newydd sef y Cyngor Cenedlaethol. Pasiwyd cynnig pellach i fabwysiadu Cyd-Gadeiryddion, gyda o leiaf un ohonynt yn fenyw. Gwrthodwyd un cynnig pellach i newid datganiad cenhadaeth y cyfansoddiad. Bydd y cyfansoddiad newydd yn dod i rym go gyfer a Chynhadledd 2017.
Bydd pob aelod yn derbyn e-bost maes o law gyda’r cyfansoddiad newydd a chrynodeb o’r hyn a basiwyd ac a wrthodwyd yn y gynhadledd.
Cawsom fodd i fyw yn gwrando ar Liz Musa a Delyth Jewell ddod i sôn am eu profiadau a’u hanawsterau fel menywod mewn gwleidyddiaeth. Roedd gwrando ar eu profiadau a’u geiriau o annogaeth i fenywod a phobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth yn ysbrydoliaeth i bob un oedd yn bresennol. Cafwyd sesiwn ddiddorol hefyd gan Syd Morgan, un o academyddion blaenllaw Plaid Cymru, yn sôn am Jack White a’r cysylltiad Cymreig â Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon. Diolch iddynt am ddod i’n Cynhadledd ac am eu cefnogaeth barhaol i’n mudiad!
Ar ddiwedd y dydd, cafwyd etholiad i’r Pwyllgor Gwaith, ac fe etholwyd 5 menyw a 4 dyn i’r pwyllgor, sy’n arwydd o’n gwaith caled ar sicrhau cydraddoldeb yn ein strwythurau democrataidd.
Cadeirydd: Emyr Gruffydd
Is-Gadeirydd: Branwen Dafydd
Ysgrifennydd: Owain Hughes
Trysorydd: Sioned Treharne
Swyddog Cyfathrebu: Fflur Arwel
Swyddog Menywod: Angharad Lewis
Swyddog Ymgrychoedd: Osian Owen
Swyddog Polisi: Elyn Stephens
Swyddog Aelodaeth: Rhydian Fitter
Roedd hefyd yn bleser cael cwmni Adrian Fuentes Arevalo o’n chwaer-fudiad Gazte Abertzaleak yng Ngwlad y Basg, a Trefina Kerrain, o UDB Yaouank yn Llydaw, yn ein Cynhadledd eleni. Cawsom eu cwmni yn cymdeithasu yn y nos ac yn ymgyrchu yng Nghaerffili y diwrnod wedyn, ac roedd pawb wedi synnu ar safon uchel Cymraeg Trefina! Mae’n hollbwysig i ni fel mudiad ddatblygu perthynas glos â’n chwaer-bleidiau er mwyn cael dysgu o’u profiadau gwerthfawr nhw.
Da iawn i’r criw ddaeth i ymgyrchu yng Nghaerffili ar ddydd Sul ac i’r gangen leol am fod mor garedig â darparu bwyd i ni! Canfasiwyd ystâd cyfan o dai a oedd yn help mawr i ymgyrch Lindsay Whittle.
Ein targed flwyddyn nesaf fydd i gael cant o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein Cynhadledd Genedlaethol.
Diolch i bawb am eu holl waith caled yn sicrhau bod gan Gymru fudiad ieuenctid gwleidyddol sydd yn barod i frwydro ac ymgyrchu dros ryddid a thegwch cymdeithasol!
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter