Covid 19 a'r Dyfodol Posib

Mae Mabli Jones, ffrind i Blaid Ifanc, yn cynnig golwg ar yr hyn gall hanes ddysgu i ni am sut mae pwerau’r byd yn delio a thrychinebau fel y pandemig Covid-19, yn seiliedig ar lyfr a rhaglen ddogfen ‘The Shock Doctrine’ gan Naomi Klein.

Os ydych â diddordeb ac eisiau dysgu mwy, gwyliwch y rhaglen ddogfen am ddim, hefyd mae rhai o adnoddau Naomi Klein ar gael ar-lein am ddim, fel y fersiwn cyfyngedig yma o’r llyfr

Fe fydd yr awdur hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein gyda phrif olygydd y Guardian Katharine Vine, Dydd Iau yma, 2il o Orffennaf 2020, 7yh-8yh. Gallwch ddod o hyd i docynnau yma.

 

 

Yn argyfwng Covid-19, gwelwn yr amodau perffaith ar gyfer ail-adrodd a pherffeithio dulliau’r Shock Doctrine, a hynny ar raddfa ni welwyd erioed o’r blaen. Yn ei llyfr am y ffenomenon, mae Naomi Klein yn dangos sut mae cefnogwyr cyfalafiaeth remp y Gorllewin yn defnyddio argyfyngau o bob math i weithredu polisïau neoryddfrydol heb fewnbwn democrataidd. ‘Cyfalafiaeth drychineb’ (disaster capitalism) mae Klein yn ei galw, ac mae’n amlinellu sut mae wedi’i defnyddio ar draws y byd yn dilyn trychinebau naturiol, argyfyngau gwleidyddol a rhyfeloedd. Mae cyfalafiaeth drychineb yn helpu creu ac yn manteisio ar yr argyfyngau hyn er mwyn agor marchnadoedd newydd i gwmnïau preifat a sicrhau lledaeniad neoryddfrydiaeth ym mhob man. Amlinellai Klein nifer o ffactorau sy’n creu tir ffrwythlon ar gyfer cyfalafiaeth drychineb: argyfwng mawr, poblogaeth dan warchae wedi’i dychryn, awyrgylch cythryblus a strwythurau democrataidd aneffeithiol ‒ ffactorau sydd oll yn bresennol ym mhandemig Covid-19. 

 

Dyma argyfwng sy’n effeithio ar bob rhan o’r blaned. Mae bywyd beunyddiol wedi newid yn llwyr ac mae trawma torfol yn datblygu o flaen ein llygaid, gyda niferoedd y meirw mor uchel eu bod yn anodd eu hamgyffred. Mae pobl yn teimlo’n bryderus, yn ddryslyd ac wedi’u llethu. Ychwanegwn at hynny gwendidau difrifol ein cyfryngau a strwythurau democrataidd ac mae gennym sefyllfa berffaith i gyfalafwyr trychineb weithredu rhaglen o newidiadau i’n heconomi a chymdeithas er lles elw. 

 

Mae’n amlwg taw bwriad nifer o lywodraethau a chwmnïau ydy defnyddio’r argyfwng i wneud hyn. Gwelwn hynny yn y cyfyngiadau anghymesur ar ein rhyddid sifil; rhoi contractau allanol ar wasanaethau i ymateb i’r pandemig (a chanlyniadau trychinebus hynny); preifateiddio gwasanaethau yn dawel a’r si cynyddol bydd yn rhaid atgyfodi llymder wedi i’r argyfwng basio. Mae’r cwmni cyfrifo Deloitte yn rhedeg gwasanaethau profi; mae Palantir wedi cael contract i gadw a dadansoddi data ynglŷn â Covid-19, ac mae Amazon wedi gweld cynnydd enfawr yn ei elw. Mae Klein wedi amlinellu sut mae pandemic shock doctrine yn datblygu, gyda gwleidyddion a chwmnïau technoleg yn manteisio ar y trychineb i ail-ddylunio gwasanaethau hanfodol a bywyd bob dydd i roi mwy o arian a grym i gwmnïau mawr Silicon Valley.

 

Nid yw ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi datgelu awydd i herio’r consensws neoryddfrydol. Rhoddwyd contract i Amazon i ddatblygu ‘porth’ profi er gwaetha’r adroddiadau bod y cwmni’n diswyddo gweithwyr sy’n codi pryderon am amodau anniogel. Cafodd y rhaglen ei chanslo oherwydd problemau gyda’i dyluniad, ond nid yw’r Llywodraeth yn fodlon datgelu faint o arian a roddwyd i Amazon am y methiant. Ymhellach, mae’r ‘arbenigwyr’ sydd wedi’u hapwyntio i banel cynghori’r Llywodraeth ar arwain Cymru allan o’r pandemig yn cynnwys Gordon Brown a’r IFS — efengylwyr dogma neoryddfrydiaeth

 

Mae’r pandemig yn rhagbortread o’r hyn gallwn ddisgwyl gyda’r argyfwng hinsawdd. Mae’r ddau argyfwng yn rhannu nifer o nodweddion dychrynllyd, gan gynnwys y gyfradd esbonyddol y maent yn gwaethygu; blaenoriaethu anghenion y farchnad dros fywydau a marwolaethau posib miliynau o bobl fregus. Bydd argyfwng o’r fath, boed hynny’n bandemig neu chwalfa hinsoddol, yn newid ein cymdeithas ar lefel sylfaenol, ond nid yw’r ffordd y bydd e’n newid wedi’i benderfynu eto. 

 

Un weledigaeth ar gyfer ein dyfodol ydy byd lle fydd cyfalafiaeth drychineb yn dwysáu a chyflymu tueddiadau presennol. Gweledigaeth mae’r damcaniaethwr o glefydau pandemig Mike Davis wedi’i galw’n ‘waliau nid brechlynnau’, lle mae’r cyfoethog yn gwneud popeth yn eu gallu i amddiffyn eu hun a’u cyfoeth ar draul bywydau pobl gyffredin ar draws y byd. 

 

Dyma fyd lle fydd ein gwasanaethau cyhoeddus wedi’u difrodi a’u rhoi yn nwylo cwmnïau preifat. Fel mae Klein yn darogan, caiff mwy o rym ei roi i lond llaw o gewri’r diwydiant technoleg, a chaiff swyddi a gwasanaethau eu canoli yn y cartref i’r breintiedig, tra bydd mwy a mwy o weithwyr yn cael eu gwthio mewn i swyddi ansicr ac anniogel. Bydd ein hatomeiddiad wedi’i gryfhau a bydd yr angen am gyswllt dynol wedi’i ddad-normaleiddio. Byddwn yn ofni eraill am eu gallu i drosglwyddo haint, a chaiff rhai grwpiau eu stigmateiddio fel cludwyr afiechyd, gan arwain at ragor o ffiniau caled a chreulon. Byddwn wedi ein cyflyru i dderbyn a disgwyl marwolaeth ar raddfa eang, ac wedi dod i arfer â chyfrifiad sy’n aberthu’r bregus er lles cyfalaf. 

 

Ond mae yna ddewis arall. Dewis gallwn ei wneud pan rydym yn gweld bod argyfwng fel hwn yn datgelu taw celwydd yw hi fod dim ffordd arall o wneud pethau. Eisoes mae gwleidyddion neoryddfrydol wedi’u gorfodi i weithredu polisïau sy’n groes i’r graen er mwyn osgoi hyd yn oed rhagor o farwolaethau: mae cysgu ar y stryd bron wedi’i ddileu yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill, mae mudwyr wedi’u rhyddhau o ganolfannau cadw ac mae incwm nifer o weithwyr wedi’i warantu gan y wladwriaeth. Gwelwn fod yr hyn a alwyd yn bosibl, yn fforddiadwy neu'n ddymunol yn amodol — ac yn cael ei benderfynu gan ideoleg, nid pragmatiaeth. 

 

Os oes gobaith yn yr argyfwng hwn, y gobaith yw y bydd yn arwain pobl i weld ei fod yn bosib — ac yn hanfodol — i drefnu ein cymdeithas ar ffurf arall. Gallwn obeithio ein bod yn dod allan o'r argyfwng gyda dealltwriaeth ddyfnach o’n cyd-ddibyniaeth sylfaenol, gydag undod newydd ar draws ein cymdeithas a dealltwriaeth nad oes gan y wladwriaeth gyfalafol Brydeinig ein lles ni wrth ei chalon. A thrwy ddatblygu undod ac empathi byddwn yn galw am ail-adeiladu cymdeithas ar sail wahanol — ar y gred fod pob un ohonom yn haeddu iechyd, urddas a llawenydd.

 

Ni allwn fynd yn ôl i ‘normal’ wedi’r pandemig. Nid yw ein ffordd bresennol o drefnu cymdeithas yn gydnaws â lles ein cymunedau na goroesiad hir dymor ein planed. Ond fel mae Klein wedi dadlau mewn llyfr arall a gyhoeddwyd yn dilyn ethol Trump, nid yw ‘na’ yn ddigon. Rhaid i’r chwith fynd ymhellach na dweud beth rydyn ni’n ei wrthwynebu — rhaid hefyd gynnig gweledigaeth amgen i ysbrydoli pobl, a brwydro drosti. Bydd cyfalafwyr trychineb yn manteisio ar y sefyllfa i weithredu eu gweledigaeth nhw, ac mae’n rhaid i’r chwith hefyd fachu ar y cyfle i gynnig datrysiadau a dwyn cefnogaeth i’n hachos oherwydd dim ond ein datrysiadau ni gall daclo’r argyfwng hwn, a’r rhai i ddod. 

 

Safwn ar ysgwyddau pobl fuodd yn brwydro dros ddyfodol gwell mewn cyfnodau oedd yn edrych yr un mor ddu â’r adeg hwn. Yn erbyn pob disgwyliad i anobeithio, rhaid cadw’r ffydd mewn dyfodol gwell er mwyn gallu brwydro drosto. A gyda gweithredu ar y cyd ag eraill y daw ffydd bellach. Codwn lais, gweithredwn, gofalwn am ein gilydd ac amdanom ni ein hunain. Yn wyneb y gwahanol bosibiliadau i’n dyfodol, cymerwn y cyfle i frwydro i newid trywydd a chreu rhywbeth llawer gwell o ludw’r presennol. 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mollie Williams
    published this page in Newyddion 2020-06-30 15:20:18 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.