Dihangwn o’n tlodi!

Ar ddiwrnod lawnsio ein gwefan newydd, dyma erthygl gan ein Cadeirydd Cenedlaethol, Glenn Page, am weledigaeth ein mudiad dros Gymru.

Dydy San Steffan ddim yn gweithio i Gymru. Dydy San Steffan erioed wedi gweithio i Gymru.

Rydyn ni’n gwybod bod gan Gymru’r potensial sydd angen i fod yn genedl lwyddiannus. Felly pam nad ydyn ni? Fel rhan o’r Wladwriaeth Brydeinig, dydy Cymru erioed wedi cael y cyfleoedd sydd angen arnom ni i allu llwyddo. Hyd yn oed yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, pan gyfrannodd Cymru’n helaeth i gyfoeth yr Ymerodraeth Brydeinig, cafodd ein cymunedau eu hecspolitio a pharhau i ddioddef tlodi enbyd. Cawsom ein cau mewn i sefyllfa o ddibyniaeth ariannol pan dad-ddiwydiannwyd ein heconomi gan lywodraeth Thatcher, llywodraeth heb fandad gan bobl Cymru. Heddiw, mae llywodraethau Prydeinig, o bob lliw, yn blaenoriaethu Llundain De-ddwyrain Lloegr, ar draul Cymru, gan gynyddu ein dibyniaeth ar y wladwriaeth.

Mae pleidiau’r Establishment yn ceisio gwneud i ni gredu mai math o rwyd diogelwch yw’r Undeb – modd cytbwys o rannu cyfoeth ac adnoddau’n deg ar draws y Wladwriaeth Brydeinig. Yng Nghymru, rydyn ni’n gwybod nad yw hynny’n wir. Sut allai fod, pan mai Llundain yw rhanbarth cyfoethocaf Gogledd Ewrop a Chymoedd y De yw’r tlotaf? Sut allai fod, pan fod gan 1% o bobl gyfoethocaf y Wladwriaeth Brydeinig yn berchen ar yr un faint o gyfoeth a’r 55% tlotaf oll gyda’i gilydd? Os mai rhwyd diogelwch yw’r Wladwriaeth Brydeinig, dim ond i’r City a’r bancwyr mae hi dda.

Rydyn ni’n dyheu am greu cenedl ffyniannus, decach, mwy democrataidd. Gwlad lle mae cyfiawnder cymdeithasol ar flaen yr agenda ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus. Gwlad lle y gwneir penderfyniadau am Gymru gan y bobl hynny sydd bwysicaf – poblogaeth Cymru. Byddai annibyniaeth yn rhoi’r gallu inni i flaenoriaethu’n economi ein hun a defnyddio ein hadnoddau naturiol di-ri er bydd pob cymuned, gan eu tynnu allan o stad o dlodi sydd wedi para ers canrifoedd. Mae’r mudiad dros gyfiawnder cymdeithasol yn mynd law yn llaw a’r mudiad cenedlaethol.

Ni fydd yr ateb i dlodi hirdymor Cymru byth yn dod o Lundain. Rhaid i ni ein hunain feddwl am yr atebion a’u gweithredu. Er mwyn cyrraedd ein nod, rhaid i Gymru rhyddhau ein hun o ddibyniaeth ariannol ar Lundain. Mae etholiadau San Steffan fis Mai nesaf yn gyfle euraidd i gyfrannu at y nod honno. Pe bai’r Senedd yn un grog, bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda phleidiau blaengar eraill i sicrhau diwedd ar lymder, i gael gwared ar arfau niwclear trident a dod â phwerau deddfu economaidd pwysig sydd angen ar Gymru i ddiweddu’n dibyniaeth.

Os wyt ti’n berson ifanc sydd eisiau gweld Cymru’n ffynnu, ymuna â’r mudiad dros ryddid cenedlaethol. Ymuna â Phlaid Cymru Ifanc!


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.