Annwyl Kirsty Williams MS/AS,
O ran y cyhoeddiad ddiweddar gan Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, rydym yn pryderu am y cyfyngiadau posibl ar fyfyrwyr prifysgol sy'n teithio adref am y cyfnod Nadolig.
Mae Mr Hancock wedi nodi na fyddai’n diystyru rhwystro myfyrwyr rhag dychwelyd adref adeg y Nadolig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r posibilrwydd hwn yma yng Nghymru hefyd.
Mae pobl ifanc Cymru eisoes wedi wynebu cryn dipyn o galedi ac yn aml mae cyfyngiadau cloi wedi effeithio'n anghymesur arnynt. Er ein bod yn deall pwysigrwydd atal COVID-19 rhag lledaenu, rydym yn teimlo nad gorfodi myfyrwyr prifysgol i aros yn sownd y tu mewn i'w blociau llety dros wyliau'r Nadolig yw'r ffordd gywir o weithredu. Rydym hefyd yn ymwybodol o nifer o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n poeni am y posibilwydd o fethu dychwelyd adref i ddathlu'r Nadolig yn eu mamwlad, gyda'u hanwyliaid.
Teimlwn y byddai'r mesur hwn yn rhy eithafol ac y gallai fod yn niweidiol i iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr. Felly, byddem yn gofyn, ar ran y miloedd o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru, nad ydych yn ystyried y cam gweithredu gormodol hwn.
Rydym yn gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi brys y sefyllfa hon ac yn edrych ymlaen at glywed eich ymateb.
Cofion
Ashley, Cadeirydd - Plaid Ifanc Islwyn
Gwenno Huws & Morgan Bowler-Brown, Cyd-Gadeirydd - Plaid Ifanc.