Mi o’n i’n falch i ddarllen maniffesto Seneddol Plaid Cymru 2021. Roedd gan ein maniffesto llwyth o syniadau da a radical i fynd i’r afael â’r materion mwyaf sy’n ein hwynebu fel cenedl. Ond, ar ôl darllen yr holl beth, er imi gytuno gyda bron pob polisi, os gofynnodd rhywun imi i enwi ychydig o bolisïau i grynhoi’n neges i’r etholwyr - byddaf wedi bod ar goll. Gyda 126 tudalen, oedd ein dadl i bleidleiswyr yn gasgliad enfawr o bolisïau, amcanion, a datganiadau. Does dim ots os yw ein polisïau yn rhai da os dydy pobl ddim yn gallu cofio nhw.
Mewn cymhariaeth a maniffesto 69 tudalen y Blaid Lafur, ag un 42 tudalen y Ceidwadwyr, ni oedd yr eithriad. Yn 2007, 36 tudalen oedd hyd ein maniffesto. Yn 2011, 54 tudalen. Yn 2016, 100 tudalen i bob iaith. Mae’r record newydd o 126 tudalen yn symptom o broblem sy’n tyfu.
Wrth gwrs, nid y nifer mawr o dudalennau yw’r broblem fwyaf. Y broblem go iawn yw bod ein polisïau a’n dadlau gorau yn cael eu claddu. Maen nhw'n cael eu claddu o dan bolisïau sy’n swnio’n wirioneddol debyg neu’n trwsio’r un pryderon.
Mae’n rhaid i Blaid Cymru neud hwn yn fwy na phleidiau arall oherwydd gwendid y wasg yng Nghymru. Mae gennym prun gyfle i gael ein clywed trwy’r wasg gan bobl Cymru. Felly, mae’n rhaid i bob un o’n negeseuon gyfri. Dyna pam dwi’n credu dylai’r mwyafrif mawr o’n gwaith cyfathrebu ffocysu ar y blaenoriaethau polisi rydym am ddewis yn ddemocrataidd fel plaid.
Dyna pam dwi’n gobeithio mae blaenoriaethu bydd adduned blwyddyn newydd Plaid Cymru. Mae’n rhaid i ni gadw’n radicaliaeth, ond gyda chasgliad polisi symlach. Gan aralleirio, rhaid i ni neud llai, yn well.
Cyn dweud unrhywbeth ymhellach, hoffwn wneud yn glir fy mod i’n deall sut gymaint o waith caled sy’n mynd mewn i ysgrifennu ein maniffesto. Dwi hefyd yn deall bydd creu maniffesto gyda chasgliad polisi symlach yn gorfodi’r ysgrifenwyr i ddweud ‘na’ i nifer o bolisïau a syniadau da. Mae’n waith caled i flaenoriaethu rhai polisïau yn uwch na’r gweddill. Ond, dyna beth sydd angen i ni wneud er mwyn ennill.
Roedd gan ein maniffesto yn 2007 y syniad cywir. Gwnaethom flaenoriaethu ein polisïau. Roedd 7 polisi allweddol ar ddechrau’r maniffesto. Wedi’i enwi “Seven for ‘07”, roedd y polisïau pwysig yma yn gallu cael ei ailadrodd tro ar ôl tro yn ein hysbysebion, dadlau, ac ar y stepen drws. Wrth siarad am y saith polisi, roedd ein canfaswyr ac ati wastad ‘on message’. Hyd yn oed yn well, roedd pob polisi wedi’i thargedu at grŵp gwahanol o bleidleiswyr yr oedd angen arnom er mwyn ennill seddi newydd.
Roedd pob un o’r saith polisi hefyd yn hynod o benodol. Roedden nhw’n bolisïau fel gofal plant fforddiadwy i bawb, cyfrifiadur ar gyfer pob plentyn, ac arian i bobl sy’n prynu ei thŷ cyntaf. Mi oedd e’n llwyddiant. Rhoddodd yr ymgyrch pwerus, wedi adeiladu ar y saith blaenoriaeth clir yn y maniffesto, y cyfle i Blaid Cymru neud y mwyaf o’r trafodaethau clymblaid.
I fynd yn ôl i’n maniffesto 2021, roedd “pum prif nod” wedi eu nodi yng nghornel tudalen deg. Ond, nid oedd y nodau yn benodol. Yr amcanion oedd “dechrau da mewn bywyd i bob plentyn”, “llwybr at lwyddiant i’r wlad gyfan”, “chwarae teg i deuluoedd”, “y gwasanaeth iechyd a gofal gwladol gorau”, a “mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.” Roedd tri pholisi wedi’i atodi i bob nod, ond roedd y system yma heb yr effeithiolrwydd a welwyd yn ymgais 2007. I fi, mae’r nodau yma yn symboleiddio problem o ddiffyg blaenoriaethu.
Yn lwcus, dewiswyd nifer o’n blaenoriaethau yn Y Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae’r cytundeb yn rhoi sylfaen o welliannau polisi a phapuron gwyn i ni ddefnyddio. Y flaenoriaeth fwyaf amlwg yn y maniffesto, yn fy marn i, bydd i addo prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol uwchradd. Gallwn hefyd ffocysu ar gynllun net zero yn 2035 a thalu ffioedd dysgu myfyrwyr sy’n gweithio yng Nghymru. Dyma rhai blaenoriaethau bras dwi wedi creu yn gyflym i esbonio’r syniad. Wrth gwrs, bydd ein sefydliadau democrataidd, ein Cynhadledd prif yn eu plith, yn dewis ein blaenoriaethau.
Dwi’n dadlau dylai Plaid Cymru dechrau’r gwaith o ddewis y polisïau sy’n fwyaf pwysig i ni - y polisïau craidd dylai arwain ein hymgyrchion etholedig. Bydd y polisïau yma nid yn unig yn denu mwy o bleidleiswyr. Bydd y polisïau hefyd yn profi pwy rydym fel plaid a dros bwy yr ydym yn brwydro. Er enghraifft, mae plaid sy’n blaenoriaethu prydau am ddim i bob plentyn ar ochr plant a rhieni.
Felly, eleni, dwi’n gobeithio bydd Plaid Cymru yn creu Adduned Blwyddyn Newydd i flaenoriaethu. Rydym - a dylem - barhau i gadw ein cynnig radical a sosialaidd i bleidleiswyr. Ond, trwy neud hwn, bydden yn cryfhau ein llais. Bydd cynnig polisi byrrach, mwy targedol yn helpu’r Blaid i ddweud wrth bobl Cymru pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n credu, a pham dylen nhw gefnogi ni. Bydd blaenoriaethu yn helpu rhoi’r blaid mewn sefyllfa gadarn i ennill yr etholiad Seneddol nesaf.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter