Mae Plaid Cymru Ifanc yn llawn gefnogi’r ymgyrch ddiweddaraf i wrthod rhoi Jac yr Undeb ar drwyddedi gyrru yn Nghymru, yr Alban ac yn Lloegr.
Mae’r cynllun yn bwriadu rhoi baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd o fis Ionawr 2015 ymlaen. Ni fydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n mynd yn groes i arfer y rhan fwyaf helaeth o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd sy’n dangos baner yr UE yn unig. Mae’n gwbl amlwg bod hyn yn dacteg gan lywodraeth Cameron i ymateb i obsesiwn UKIP gyda mewnfudo a’r Undeb Ewropeaidd, plaid sy’n prysur gymryd cyfran helaeth o gefnogaeth y pleidiau mawr unoliaethol.
Mae ffigurau amlwg ym Mhlaid Cymru, fel Elfyn Llwyd, wedi beirniadu’r cynllun fel un “ansensitif”. Dywedodd AS Dwyfor Meirionydd y byddai’n arwain at “wrthdaro” ac y byddai’n “gam difrifol yn ôl.”
Dangoswch eich gwrthwynebiad chi i’r cynllun hwn trwy arwyddo’r ddeiseb isod! Dywedwn Na i lywodraeth Brydeinig sydd am wthio Prydeindod arnom!
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter