Cyfle i ti ethol Swyddog Menywod newydd i Blaid Ifanc! Darllena’r manifesto a phleidleisa isod!
Maiwenn Berry
Rwyf yn falch o fod yn aelod o Blaid Ifanc, ac mi fyswn yn mynd mor bell â datgan nad oes unrhyw gymdeithas na mudiad arall wedi cael cymaint o ddylanwad dirdynnol ar fy mywyd i dros y 5 mlynedd diwethaf. Y mae cymryd rhan yn ymgyrchoedd a digwyddiadau Plaid Ifanc wedi magu hyder, sgiliau, egwyddorion a gwerthoedd cryf.
Un o uchafbwyntiau’r 5 mlynedd diwethaf fel aelod o Blaid Cymru yw’r cynnydd a welais yng nghyfranogiad gwleidyddol menywod yng Nghymru yn lleol ac yn genedlaethol, a phetawn i yn cael y cyfle i dderbyn y swydd fel Swyddog Menywod Plaid Ifanc byddaf yn gweithio i sicrhau parhad yng nghynnydd cyfraniad menywod ifanc mewn gwleidyddiaeth.
Hap a damwain lwcus oedd dechrau yn y Brifysgol ym Mangor yr un flwyddyn ag etholiadau’r cynulliad, ond bu’n gyfle i ail-sefydlu Cangen Plaid Ifanc Bangor. Fel menyw ifanc oedd yn dechrau gweithredu’n wleidyddol, roedd cefnogi ymgyrch Sian Gwenllian a chymryd rhan flaenllaw ar bwyllgor Plaid Ifanc Bangor yn brofiad gwerthfawr. Credaf fod fy nghyfnod fel ysgrifenyddes am ddwy flynedd ac wedyn yn drysorydd yn fy mlwyddyn olaf yn un sydd wedi fy mharatoi ar gyfer gofynion y swydd uchod, megis cyd-weithio ag aelodau’r pwyllgor a thu hwnt. Yn ogystal rwyf wedi magu hyder yn fy ngallu i drafod gwleidyddiaeth yn gyhoeddus ac wedi magu sgiliau trefnu a rheoli amser i bwrpas.
Er y cynnydd does dim gwadu fod y rhwystrau yn llawer mwy amlwg na’r drysau i groesawu menywod ifanc i’r byd gwleidyddol. Wedi dychwelyd i Ddyffryn Clwyd ers yr haf rwyf bellach yn ysgrifenyddes Cangen Plaid Dinbych ac yn cynrychioli’r gangen ar bwyllgorau rhanbarth hefyd. Rhai o’m nodau i yma yn Ninbych yw codi safbwyntiau aelodau benywaidd o’r gangen, sicrhau cynnydd yng nghyfraniad menywod a sicrhau cynrychiolaeth gyfartal.
Tebyg yw fy nghymhelliant dros ymgeisio am y swydd hon ac os byddaf yn lwcus edrychaf ymlaen at greu mwy fyth o gyfleoedd i hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad gwleidyddol menywod ifanc trwy Gymru gyfan.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter