Rhydian Elis Fitter, ein swyddog aelodaeth, sy’n annog ein haelodau i fynd allan i ymgyrchu yn y pythefnos cyn yr etholiad.
Pythefnos yn unig sydd i fynd tan i Gymru ddewis llywodraeth newydd. Yn lle defnyddio’r amser yma i apelio at bleidleiswyr newydd, dwi am siarad gyda fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru a Phlaid Ifanc.
Rydym i gyd yn gwybod mai Plaid Cymru yw’r Newid Sydd Ei Angen. Ry’ ni’n gwybod bod ein gwlad yn dioddef ar ôl 17 blynedd o reolaeth ddi-dor Llafur. Mae ein pobl yn mynd yn angof ar restrau aros am driniaethau, mae ein prif ddiwydiant mewn argyfwng ac mae ein heconomi yn cwympo yn ôl ar gyfradd ddychrynllyd. Mae angen newid ar Gymru.
Rydym hefyd yn ymwybodol o’r ffaith bod pobl wedi blino ar drahauster, hunanfodlondeb ac anghymwysedd llwyr y Blaid Lafur yng Nghymru. Yn anffodus, rydym hefyd yn gwybod bod llawer o’r rheini sydd yn grac yn troi at UKIP.
Mae Cymru’n sâl o dan Llafur. Mae newid yn angenrheidiol ond fedrwn ddim caniatáu i’r newid yna ddod yn ffurf gwenwynig UKIP. Mae angen moddion ar Gymru. Mae angen gofal ar Gymru. Mae angen ar Gymru lywodraeth newydd sydd yn meddu ar uchelgais, ar angerdd, a’r brwdfrydedd i newid ein gwlad. Plaid Cymru bydd y moddion yna, y newid yna, y llywodraeth yna. Ond bydd hyn ond yn digwydd os rydyn ni’n peri iddi ddigwydd.
Dyna pam dwi’n apelio i bob un o fy nghyd-aelodau, ym Mhlaid Ifanc a thrwy’r Blaid yn ehangach, i gnocio pob drws y fedrwch chi, i ddosbarthu pob un taflen gallwch gario. Anfonwch fwy o negeseuon trydar a rhannwch mwy o bostiau facebook nac ydych erioed wedi ei gwneud o’r blaen. Bydd pum mlynedd arall o reolaeth gan Lafur yn llesteirio cynnydd ein gwlad am genhedlaeth arall. Ni yw’r rhai all atal hyn. Mae UKIP yn bygwth rhannu’n gwlad a dinistrio’n cymunedau. Ni yw’r rhai all eu hatal nhw hefyd.
Yn yr etholiad yma, mae Cymru’n wynebu bygythiad difrifol a chyfle anhygoel. Gallwn wynebu pum mlynedd arall o Carwyn Jones yn pwyso ar ei ddarllenfa tra bod cyn-Dorîaid UKIP yn gwneud ffwlbri o’n Senedd, neu gallwn ddal ar i’r cyfle i wneud Leanne Wood yn ein Prif Weinidog a sicrhau’r Newid Sydd Ei Angen.
Ar Fai’r 6ed, pan edrychwn yn ôl ar y tair pythefnos nesaf yma, gallwn edrych yn ôl arnynt gyda gofid a galar bydd yn para am bum mlynedd. Neu gallwn edrych yn ôl ar y tair wythnos nesaf fel yr amser ble cafodd ein cenedl ei aileni o lwch methiant Llafur, gyda balchder a gobaith am ddyfodol gwell.
Felly dwi’n eich annog chi – ewch allan. Brwydrwch dros bob un pleidlais. Dangoswch i bawb yr angerdd sydd gennych dros eich Plaid a’ch gwlad a byddwch y Newid Sydd Ei Angen.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter