Dylai'r ffaith fod Liz Truss yn lansio ymosodiad ar hawliau LHDT yn ystod pandemig byd eang ein pryderu ni i gyd

Erthygl ar y Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia, Trawsffobia a Rhyngffobia gan Llŷr Williams cadeirydd Plaid Pride - Mudiad Balchder Plaid Cymru ag aelod pwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Ifanc. 


 

Byddai unrhyw un wnaeth wrando ar ddatganiad Liz Truss Gweinidog Menywod a Chydraddoldeb y DG i bwyllgor dethol Menywod a Chydraddoldeb ar y 22ain o Ebrill wedi nodi’r rhagrith llwyr yn ei honiadau o “record gref y DG ynghylch hawliau LHDT” cyn cyhoeddi ffrwyno pellach o hawliau LHDT

 

(Llun Seneddol Swyddogol Liz Truss)

 

Roedd llawer ohonom yn gwybod bod yr ymosodiad yma ar y ffordd.

 

Adroddodd y “Times” ym Medi 2019 fod y Ceidwadwyr yn creu arolygon barn ar be y gelwir yn faterion “Rhyfel Diwylliant” (Culture War issues) megis hawliau’r gymuned traws er mwyn i’w harfogi a’i defnyddio nhw yn erbyn yr wrthbleidiau mewn etholaethau dosbarth gweithiol – gyda’r gobaith o ddefnyddio’r gymuned trawsrywiol fel bric pwdin mewn be elwir y papur yn “gem wleidyddol ddirdro”.

 

Yn fwy diweddar, mae sylwebyddion Ceidwadol wedi lansio ymosodiadau ar y gymuned Traws wnaeth arwain i gyhoeddiad ar trydar gan adran LHDT+ y Blaid Geidwadol ei hun yn dweud fod “rhaid i’r casineb hwn ddod i ben” a sut “mae gwyddoniaeth rhywedd dal yn cael ei ddeall yn wael”.

 

Roedd yr ymatebion i’r datganiad hwn yn llawn o aelodau a chefnogwyr y Ceidwadwyr yn ymosod ar adran LHDT+ eu plaid eu hunan.

 

Tra dylid canmol adran LDHT+ y Ceidwadwyr am ddatganiad beiddgar a diamwys mewn cefnogaeth o hawliau’r gymuned traws, dylai pawb boeni gweld aelodau’r Ceidwadwyr yn troi yn erbyn eu hadran LHDT+ eu hunain mor agored ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Nodwyd datganiad Liz Truss ei chynlluniau ar gyfer dyfodol y Ddeddf Cydnabod Rhyw. Yn y cynlluniau yma nododd yr angen i wneud yn siŵr bod pobl “o dan 18 yn cael eu hamddiffyn o benderfyniadau gallent eu gwneud, bydd yn anghildroadwy yn y dyfodol”.

 

Mae’r datganiad yn adleisio’r stigma gwrth LDHT presennol a oedd yn bodoli yn ystod dyddiau tywyll “Section 28”, stigma sy’n gwthio’r syniad llechwraidd yma bod rhaid “diogelu” pobl ifanc ac nad yw pobl ifanc LHDT yn gwybod beth ydyn nhw felly mae’n rhaid eu “diogelu”.

 

Mae lansio bygythiad uniongyrchol at ofal iechyd i bobl ifanc traws yn ystod pandemig byd-eang yn weithred ddirmygadwy y mae’n rhaid ei gondemnio.

 

Yr hyn sy’n waeth yw bod y Ceidwadwyr yn barod yn arfogi’r mater hwn i gyhuddo gwrthwynebwyr i’r ddeddfwriaeth arfaethedig yma fel rhai sydd am i bobl ifanc i “ddifrodi eu hunain”, ond hefyd i wthio’r un hen linell wrth LHDT bod y gymuned yn fygythiad i bobl ifanc.

 

Y tu hwnt i’r datganiadau a ymarferwyd sy’n gorlifo cylchoedd cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr a’r camadnabyddiaeth enfawr sydd yn bodoli ynghylch hawliau traws, y gwir yw, fel y adroddir gan yr elusen i bobl ifanc trawsrywiol neu sy’n cwestiynu eu cenedl, Mermaids, bod cynllun Liz Truss yn “symud i gyflwyno math newydd o anghydraddoldeb i feddygaeth ym Mhrydain”.

 

Mae gofal iechyd i bobl ifanc traws yn cynnwys gofal seicolegol, cwnsela i deuluoedd a meddyginiaethau blocio’r-glasoed. (puberty-blocking medication)

 

Nid arbrofion ar hap i fynd i’r afael â’r “woke generation” yw'r rhain, ond gwasanaethau hanfodol gyda’u gwreiddiau ym meddygaeth.  

 

Dogfennodd Adroddiad Ysgolion Cymru (2017) Stonewall profiadau pobl ifanc LHDT mewn ysgolion yng Nghymru, ac amlygodd yr adroddiad y data pryderus isod:

 

  • “ Mae disgyblion traws mewn risg nodedig: mae 73% wedi cael profiad o fwlio yn yr ysgol”
  • “Mae mwy na hanner o bobl ifanc traws yn dweud nad ydynt yn gallu defnyddio’r toiledau maent yn teimlo’n gyffyrddus yn eu defnyddio yn yr ysgol”
  • “Nid yw dau mewn pump yn gallu cael eu hadnabod gan ei enw dewisol yn yr ysgol”
  • “Mae tri mewn pedwar o bobl ifanc traws wedi niweidio eu hunain ar ryw adeg”
  • “Mae tri mewn pump yn cofnodi bod bwlio wedi cael effaith negyddol ar eu cynlluniau ar gyfer addysg yn y dyfodol”

 

Y canfyddiad mwyaf trawiadol yn yr adroddiad yw hyn:

 

“Mae dau mewn pump o bobl ifanc traws, ar ryw adeg, wedi ceisio cymryd eu bywyd eu hunain”


 

Os nod cynlluniau Liz Truss yw i “diogelu” pobl ifanc traws, byddai cael gwared ar eu gallu i gael mynediad at ofal iechyd angenrheidiol yn gwneud yr union gyferbyn. Yn wir, ni ddylwn anghofio’r mesurau oedd yno i “ddiogelu” bobl ifanc yn “Section 28” a drodd addysg mewn i uffern i bobl ifanc LHDT yn ystod  y 1980au. 

 

Os yw Liz Truss o ddifrif o eisiau diogelu pobl ifanc, dylai sicrhau mynediad llawn at ofal iechyd a all eu helpu. Fel arall, nid yw’r sôn yma am “ddiogelu” yn ddim ond offeryn gwleidyddol i gasglu cefnogaeth i’r hyn sy’n gam sylweddol yn ôl.


Amser i sefyll lan
 

Mae’n bryd i ni gyd sefyll lan dros y gymuned Traws, sefyll lan dros hawliau cyfartal i gael mynediad at ofal iechyd a gwrthod y syniad yma gall llywodraethau dewis pwy ddylid cael yr hawl i gael mynediad at ofal iechyd hanfodol ag ar ba oedran, i osgoi mesurau gall greu anghydraddoldeb difrifol a gallai niweidio lles pobl ifanc traws ym mhellach.

 

I’r rhai ohonoch sy’n dweud y dylem ganolbwyntio ar guro’r pandemig – nid yw hynny nac yma nac acw. Oherwydd, pan wneir ymosodiad o’r lefel yma yn erbyn y gymuned LHDT+,  ein cyfrifoldeb ni yw sefyll lan, i herio a gwneud popeth o fewn ein gallu i drechu unrhyw gynllun a fyddai’n ffrwyno hawl unrhyw un at ofal iechyd, gellir dadlau hyn yn awr yn fwy nag erioed.

 

Mae datganiad Liz Truss yn cyfeirio ar faterion datganoledig a materion sydd ddim wedi’u datganoli, tra bod y cwestiwn ynghylch datganoli yn gliriach yn yr Alban, yng Nghymru mae angen i Lywodraeth Cymru gofyn am eglurder nawr, fel eu bod yn gallu deddfu i amddiffyn pobl ifanc traws, amddiffyn eu hawl i gael mynediad at ofal iechyd ac i atal cynlluniau gwrth-LHDT y Torïaid.

 

Ar gyfer y gymuned LHDT+, a yw’n bryd gofyn y cwestiwn i ni ein hunain, pa faint mwy dylwn oddef pwyllgor cydraddoldeb wedi’i gadeirio gan aelod seneddol Torïaidd wnaeth bleidleisio yn erbyn priodasau cyfartal a Gweinidog gydraddoldeb sy’n wfftio'r materion sy’n wynebu aelodau’n cymuned fel “gwleidyddiaeth hunaniaeth”?  (“Identity politics”? )

 

Pa faint mwy dylwn orfod derbyn ugeiniau o wleidyddion yn chwifio baneri enfys wrth weiddi am faint maent yn cefnogi ein cymuned, tra ar yr un adeg yn ceisio dileu’r hawl i gael gafael ar ofal iechyd i rai o’r aelodau mwyaf bregus o’n cymuned, wrth ddefnyddio iaith sy’n cymryd ni yn ôl i ddyddiau tywyll y “Section 28”?

 

Gallwch ddarllen datganiad Liz Truss yn ei chyfanrwydd yn Saesneg yma:

 

https://www.gov.uk/government/speeches/minister-for-women-and-equalities-liz-truss-sets-out-priorities-to-women-and-equalities-select-committee

 

Gallwch ddarllen Adroddiad Ysgolion Cymru Stonewall yma:

 

https://www.stonewallcymru.org.uk/search/school%20report%202017

 

Gallwch ddarllen datganiad Mermaids’ ar gynlluniau Liz Truss yma:

 

https://www.stonewallcymru.org.uk/search/school%20report%202017

 

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.