Ad-ennillwn Lanelli!

Wedi’u hysbrydoli gan eu hymgeisydd lleol Vaughan Williams, yn ogystal â digwyddiadau diweddar yn yr Alban, cafodd cangen newydd sbon ei sefydlu yn Llanelli, gyda chriw brwd wedi dechrau ymgyrchu dros ryddid cenedlaethol. Dyma Brett John, cadeirydd newydd y grŵp, i esbonio ychydig i ni am y grŵp newydd.

Mae 93 mlynedd o’r Blaid Lafur yn Llanelli yn amlwg wedi cael cryn ddylanwad ar safbwynt ieuenctid y dref heddiw; gymaint, fel ein bod am frwydro dros lais cryfach – llais Plaid Cymru. Bob penwythnos, daw canol tref Llanelli yn fyw gyda gweithgarwch tîm newydd ifanc o’n cangen mwyaf newydd, Plaid Cymru Ifanc Llanelli.

Mae’r tîm brwd yn cynnwys tua dwsin o aelodau newydd, oll yn gweithio tuag at un nod pwysig – gorffen gyda thra-arglwyddiaeth Llafur yn Llanelli ; newid coch (neu binc!) am wyrdd. Cafodd ein haelodau eu hysbrydoli gan ein hymgeisydd, Vaughan Williams, mewn dadleuon yn ysgolion Llanelli. Mae’n anhygoel i weld ac mae’n bwysig nodi nad yw Plaid Cymru eisiau siarad â’r etholwyr ‘targed’ yn unig, hynny yw, pobl dros oedran pleidleisio.

Nid llais cryfach yn San Steffan wedi’r etholiadau nesaf yw’r unig beth rydym yn gweithio drosto, ond hoffem wybod beth sydd gan bobl ifanc i’w ddweud – nid beth sydd gan yr elit yn Llundain i’w ddweud. Am fwy o wybodaeth, danfonwch e-bost at [email protected] a dilynwch ni ar twitter, @plaidifancllan.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.