Cyfweliad gan Delyth Jewell AC

 

Bu geni Delyth Jewell yng Nghaerffili a’i magu yn Ystrad Mynach gan fynychu Ysgol Bro Allta ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio gyda BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a Gradd Feistr mewn astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Rhydychen.  Wedi gadael y Brifysgol aeth i weithio fel ymchwilydd seneddol I Blaid Cymru yn San Steffan, yno bu iddi dderbyn gwobr yn 2014 fel ‘Ymchwilydd Seneddol y Flwyddyn’ Mae Delyth hefyd wedi gweithio i elusennau megis ‘Cyngor ar bopeth (Citzens Advice)’ ac ActionAid gan ymwneud a materion megis Datblygiad  Rhyngwladol a Hawliau Merched.  Does dim dadlau felly mai Delyth Jewell yw’r gwleidydd perffaith i’n helpu ni ym Mhlaid Ifanc i ysbrydoli menywod eraill yng Nghymru i ymwneud a gwleidyddiaeth yn y gobaith y bydd mwy o fenywod yn sefyll mewn etholiadau, yn lleol neu’n genedlaethol, yn y dyfodol.

Maiwenn Berry – Mae cynnydd sylweddol wedi digwydd dros y blynyddoedd gyda nifer o fenywod sy’n gweithredu’n wleidyddol wedi codi’n Nghymru ac ar draws y byd.  Ond hyd heddiw nid  cynrychiolaeth ddigonol ar unrhyw lefel ac mae her anferthol o’n blaen i wella’ yn enwedig wrth ystyried ffactorau megis awyrgylch gweithio i fenywod mewn gweithle gwleidyddol a hefyd sut y mae gwleidyddion benywaidd yn cael eu trin.   Fel aelod seneddol newydd beth yw dy obaith a dy ddyhead i fenywod mewn Gwleidyddiaeth?

Delyth Jewell – Rwyf eisiau gweld mwy o fenywod yn ymwneud a bywyd cyhoeddus yn gyffredinol ac wrth gwrs gwleidyddiaeth oherwydd ni fydd newid yn digwydd nes bydd menywod mewn ystafelloedd lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.  Rwyf eisiau gweld pleidiau gwleidyddol, yn enwedig Plaid, yn creu cynlluniau er mwyn annog menywod ifanc i ddarganfod mwy am y byd gwleidyddol. Rwyf eisiau hefyd gweld diwylliant mwy agored wrth i ni drafod y rhwystrau sydd yn wynebu menywod sydd eisiau dilyn y math yma o yrfa – drwy wynebu’r rhwystrau hyn gyda’n gilydd yw’r unig ffordd i’w goresgyn.

MB – Does dim dwywaith bod menywod yn cyd-weithio wedi newid yr agenda gwleidyddol yn llwyddiannus gan wella ansawdd bywyd nifer o bobl, ac yn parhau i wneud hynny.  Ond fel y mae Delyth wedi crybwyll eisoes, mae’r menywod hynny sydd am ymwneud a gwleidyddiaeth hefyd yn wynebu rhwystrau cymdeithasol a diwylliannol mawr.  Rhaid pontio’r bwlch rhwng eisiau gwella’r hyn sy’n effeithio’ch cymuned a chael yr hyder i sefyll mewn etholiad fydd yn eich galluogi chi i gael pŵer i wireddu’r newidiadau hynny.  Gofynnwyd i Delyth os yr oedd ganddi unrhyw ansicrwydd neu amheuaeth ynghylch mentro i fyd gwleidyddiaeth, a sut bu iddi oresgyn unrhyw bryder?

DJ – Yn sicr.  Rwyf wedi gweithio yn y Trydydd Sector ac fel ymchwilydd am sawl blwyddyn, a phan ddechreuais i roeddwn heb os yn teimlo fel petai gen i ddim yr hawl i fod yno, fel llawer o ferched eraill dwi’n siŵr, a dwi dal i deimlo felly! Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig  i ni fod yn fwy cyhoeddus ac agored wrth drafod hyn.

Roeddwn hefyd yn bryderus am y gamdriniaeth y mae menywod yn fwy tebygol o dderbyn.  Mae hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid gweithredu arno – nid yw’n fater i fenywod yn unig!  Wrth ymateb i unrhyw fath o gamdriniaeth ar wefannau cymdeithasol megis Twitter, rhaid allgofnodi’n syth a pheidio gadael i’r sylw cas fynd dan dy groen!  Mi wnes i’r penderfyniad nad oeddwn i am adael i bobl eraill dawelu’n llais.

MB – Mae Delyth eisoes wedi crybwyll sawl gair i gall, a dwi’n siŵr y bydd aelodau o Blaid Ifanc ac eraill yn gwerthfawrogi ei geiriau o anogaeth, i gloi felly gofynnwyd iddi am sylwad arall; Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fenywod ifanc sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth?

DJ – Siaradwch gyda phobl sydd eisoes y gwneud y gwaith. Chwiliwch am gyfleoedd i gysgodi a chael eich mentora.  Byddwch yn ddewr – fe allwch chi wneud hyn ac mi fyddwn ni yma i’ch cefnogi!


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.