Cymru: Boddi mewn Plastigau

 

Ers iddynt ddod yn boblogaidd yn y 60au, mae plastigau wedi dod yn rhan anatod o’n bywyd, o becynnau bwyd i’n dillad. Serch ymdrech rhaglenni megis Blue Planet ac ymgyrchu, mae COVID-19 wedi cyflymu effaith niweidiol microplastigau ar ein hamgylchedd a’n bioamrywiaeth. Mae lluniau brawychus o wylannod môr a’u traed yn sownd mewn masgiau un defnydd yn atgyfnerthu’r annogaeth i ddefnyddio masgiau aml-ddefnydd yn lle. Fodd bynnag, be sy’n fy mhoeni yw’r dyfodol, gyda nifer o rhwystrau ar y ffordd i fyd di-blastig. 

 

Fy mhryder cyntaf yw Act y Farchnad Fewnol. Fel mae nifer ohonoch yn gwybod, mae’r Act yn cynnig sut fydd Llywodraeth y DU yn hwyluso masnach o fewn y DU wedi Brecit. Y rhan fwyaf ddadleuol o’r Act yw sut mae’n cynnig ble dylai pwerau a roedd yn cael eu dal gan yr UE fynd wedi Brexit. Mae’r Act yn cynnig dylai Llywodraeth y DU gallu wario mewn meysydd datganoledig, yn ogystal a diddymu safonau bwyd ac amgylcheddol  wedi’i gosod yng Nghymru i rannau eraill o’r DU, gan greu ras i’r gwaelod. Golygai hyn petai Cymru yn gwahardd plastigau un-defnydd er mwyn ceisio lleihau gwastraff plastig, buasai cynnyrch o rannau arall o’r DU yn gallu cael eu gwerthu yma. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym Mawrth 2020 mai eu bwriad oedd gwahardd plastigau un-defnydd gan gynnwys gwellt a buds cotwm, gan rhyddhau ymgynghoriad mewn i’r mater y Gorffenaf hwnnw.  

Er fod hwn yn gam allweddol i ddod yn Gymru di-blastig, ni allwn adael ein gwaith caled gael ei ddad-wneud gan Act y Farchnad Fewnol. Mae rhaid i ni frwydro ei effeithiau cyhyd a gallwn ni, neu deith ddiwedd farwol ar ddatganoli a’r amgylchedd. 

 Yn ogystal a Act y Farchnad Fewnol, mae amgenion hygyrch i blastig yn broblem enfawr sy’n rhwystr posib i Gymru di-blastig. Mae plastigau yn un o’r materion taclon ni fel Senedd Ieuenctid Cymru, ac edrychon ni mewn i hygyrchedd i amgenion di-blastig i bobl ifanc. Ar yr hyn o bryd, mae nifer o amgenion i gynnyrch plastig rydym yn defnyddio, ond yn aml mae rhain yn llawer dwy drud na’u cyfatebion plastig. Mae ymchwil gan Ysgol Becynnu Prifysgol Talaith Michigan yn dangos bod newid i amgenion di-blastig ynn gallu codi costau trafnidiaeth gan hyd at bum gwaith. Heb os nac oni bai, bydd hyn yn gwneud cynnyrch yn fwy drud a anhygyrch i bobl ifanc. Pan mi fyddwn ni yn newid i amgenion di-blastig, mae’n rhaid sicrhau bod y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud o ran defnydd, fel nad ydy’r cost yn rhy uchel i bobl ifanc fod yn ddi-blastig. 

      Yn olaf, mae ein hymdrechion i leihau llygredd yn cael eu difordi gan ymdrech gwarthus llywodraeth y DU i ddiddymu democratiaeth. Bydd eu gweithredoedd yn gallu newid y byd o fod mewn argyfwng COVID i argyfwng plastigau. Yn y cyfamser, cysylltwch a’ch AS-dangoswch i nhw yr effaith difrifol mae’r Act yma yn gallu cael ar ein hamgylchedd. 




Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gwion Rhisiart
    published this page in Newyddion 2021-12-31 10:28:38 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.