Na, ni fydd Plaid Cymru yn clymbleidio gyda’r Ceidwadwyr

Neithiwr fe drydarodd aelod o’r Democratiad Rhyddfrydol bod yna ‘sôn’ byddai Plaid Cymru, ar ôl etholiadau’r senedd y flwyddyn nesaf yn mynd i glymbleidio gyda’r Ceidwadwyr. Mae’r ‘sôn’ yma yn gwbl ffug, anamddiffynadwy ac yn anymarferol.

 

Pryd heriwyd yr honiadau yma gan aelodau Plaid Cymru, fe wnaeth nifer o aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, yn ei phlith, un darpar ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r senedd y flwyddyn nesaf, atgyfnerthu eu safbwynt drwy gynhyrchu ‘tystiolaeth’ wrth erthyglau o BBC News gyda phenawdau oedd yn ôl y sôn yn cefnogi eu honiadau nhw.

 

Serch hynny, ar ôl clicio ar yr erthyglau yma, gallwch ddarllen datganiad gan AC Plaid Cymru yn cadarnhau ni fyddent yn gallu gweithio o dan Brif Weinidog o’r Torïaid, gallwch hefyd ddarllen datganiad gan lefarydd ar ran Plaid Cymru yn taflu’r syniad i’r neilltu yn gyfan gwbl. Dywedodd y llefarydd nid oes gan Blaid Cymru “unrhyw ddiddordeb” mewn trafod gyda’r Ceidwadwyr, yn ychwanegu mai “Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd yn cynnig gobaith, ag Adam Price yw’r unig Brif Weinidog credadwy a all sicrhau newid. Nid oes gennym unrhyw ddiddordeb mewn trafod gyda Phlaid sydd wedi llwgu Cymru o gyllid ac sy’n benderfynol ar dynnu pwerau yn ôl o’n Senedd”.

 

Fel ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghanol Caerdydd ar gyfer yr etholiad y flwyddyn nesaf, gallaf ddweud yn sicr os caf fy ethol ni fyddai’n ymuno â chlymblaid gyda’r Ceidwadwyr, ac rwy’n siŵr byddai’r mwyafrif llethol, os nad pob un o fy nghydweithwyr yn cytuno â mi.

 

Pan dynnwyd sylw aelod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru at y ffaith bod Plaid Cymru wedi taflu’r honiad i’r neilltu yn gyfan gwbl, fe newidiwyd ei safbwynt trwy ddweud bod dal amser i bethau i newid, mewn sefyllfa sydd yn gallu newid ar fyr rybudd. Fodd bynnag, o ystyried yr amgylchiadau presennol, mae’n hurt i honni byddai Plaid Cymru yn edrych at y Ceidwadwyr yn San Steffan ar ffordd maent wedi trin Cymru trwy’r argyfwng presennol a thrwy ein hanes a newid eu meddwl.

 

Ar lefel San Steffan mae’r Ceidwadwyr wedi tanseilio ymdrechion Cymru ar brofi ag offer amddiffyn personol. Yn y cyfamser, yn ei araith fwyaf diweddar i gynhadledd y Ceidwadwyr, fe ymosod Paul Davies arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig ar ddatganoli.

 

Er hyn, yn ôl rhai Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, honnir bod ‘tystiolaeth’ pellach i’r sôn yma wedi dod yn yr wythnosau diwethaf o’r ffaith bod Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig, i’ll dau wedi galw ar Weinidog Iechyd y Blaid Lafur Vaughan Gething i gamu i’r neilltu. Fodd bynnag, er bod dau o’r gwrthbleidiau yn cytuno ar fater ar ryw adeg, nid yw hyn yn meddwl eu bod yn cydweithio, yn hytrach maent ond yn cyflawni eu dyletswydd ddemocrataidd drwy herio’r llywodraeth.

 

Mae’r cofnodion yn dangos, yr unig dro mae Plaid Cymru erioed wedi taro bargen yn ffurfiol gyda phleidiau eraill oedd gyda’r Blaid Lafur rhwng 2007-2011 ar ffurf clymblaid lawn, a gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2019 fel rhan o’r “Remain Alliance”, gyda’r nod o ATAL y Ceidwadwyr rhag ennill. Yn wir, yn 2007 roedd yna drafodaethau aflwddianus o glymblaid ‘enfys’ rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu hunain, wrth gwrs! Ond, erbyn hyn, mae gan Blaid Cymru arweinydd, pwyllgor Gwaith ag aelodaeth cwbl wahanol ac mae’r amgylchiadau gwleidyddol wedi newid yn gyfan gwbl hefyd.

 

I fod yn glir, ni fydd arweinyddiaeth nag aelodaeth Plaid Cymru heddiw yn cymeradwyo’r syniad o glymbleidio gyda’r Ceidwadwyr. A dweud y gwir, yr unig blaid sydd wedi clymbleidio gyda’r Ceidwadwyr yn ddiweddar yw’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015.

 

Mae’r honiadau di-sail hyn yn ganlyniad o anwireddau nodweddiadol a thactegau brwnt y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw’n rhagrithiol, ac maent yn dangos cwbl diffyg hunanymwybyddiaeth, gan ystyried eu bod nhw wedi cydweithio gyda’r Blaid Lafur dwywaith yn ein Senedd (2000-2003 a 2016 i heddiw), yn ogystal â chydweithio â’r Ceidwadwyr yn San Steffan ac y maent o blaid cynrychiolaeth gyfrannol bydd yn arwain at y sefyllfa anochel ble bydd angen i bleidiau i daro bargeinion gyda'i gilydd.

 

Rwyf i fy hun, o blaid Cynrychiolaeth Gyfrannol hefyd ac rwy’n credu, ble y gellir gwneud hynny dylai pleidiau gwleidyddol gydweithio er lles pawb. Serch hynny, mae’n glir nad oes gan Blaid Cymru ar Blaid Geidwadol bresennol lawer os nad unrhyw beth yn gyffredin i alluogi ffurfio perthynas gweithiol rhwng y ddwy blaid.

 

Mae’n siomedig ac yn drueni yn yr amseroedd blin yma bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ceisio tynnu ein sylw at anwireddau mân mewn ymgais i wneud eu Plaid a oedd unwaith yn blaid anghydffurfiol radical Cymreig yn berthnasol unwaith eto. Wrth symud ymlaen, dylent ganolbwyntio ar roi cymorth i athrawon a disgyblion yn ystod yr argyfwng Cofid19, yn hytrach na chwarae gemau gwleidyddol rhyngbleidiol. Rwy’n gobeithio bod y dystiolaeth a ddarperir yn yr erthygl yma yn egluro’r mater am unwaith ac am byth. Ni fydd Plaid Cymru yn clymbleidio â’r Ceidwadwyr a phryd bynnag bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymraeg neu hyd yn oed Llafur Cymru yn ceisio hyrwyddo’r celwydd noeth anymarferol hon eto, gellir  rhannu’r erthygl yma gyda’r pleidleiswyr i gadarnhau’r gwir.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.