‘Gwnewch y pethau bychain’, dywediad a glywir droeon ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Gwnaeth Blaid Cymru beth bach ddoe, pasiodd bolisi. Mae ystyriaeth o’n credoau a sefydlu’r hyn rydym yn sefyll drosodd yn rhywbeth sy’n cael ei wneud o hyd gan aelodau Plaid Cymru.
Gweithred fach yw mabwysiadu geiriau ar bapur ond mae ei heffaith yn gallu bod yn fawr ac yn bellgyrhaeddol.
Roedd yn bolisi ar gydraddoldeb traws. Fe frwydrwn dros hawl anaralladwy pobl draws i fyw’n rhydd o ragfarn, camwahaniaethu ac erledigaeth.
Fe frwydrwn dros hawl anaralladwy pobl draws i bennu eu hunaniaeth rhywedd eu hunain a byw yn unol â hynny. Dylai hyn gynnwys yr hawl i gael mynediad at wasanaethau a chyfleusterau yn unol â’u hunaniaeth rhywedd.
Rydym yn credu fod rhagfarn a chamwahaniaethu yn erbyn pobl draws yn annerbyniol ac na ddylid ei oddef dan unrhyw amgylchiadau.
Rydym yn gwneud y pethau bach oherwydd mae’n datgloi’r drws at bethau mwy.
Heddiw, rydym yn dathlu bod yn Gymraeg. Mae bod yn Gymraeg, a bod yn rhan o Blaid Cymru, yn golygudathlu bob person; yn gydradd a gyda’n gilydd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter