Mae Plaid Ifanc yn falch o gyhoeddi bod ein cynhadledd genedlaethol am gael ei chynnal ar Ebrill y 9fed. Dyma gyfle i’r mudiad ddod at ei gilydd i werthuso’r cynnydd anhygoel yr ydym wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i gynllunio’r camau nesaf i’r mudiad cenedlaethol dros y 12 mis sydd i ddod.
Eleni cynhelir ein cynhadledd ar y 9ed o Ebrill am 10.30 yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd.
Rydym wedi gwneud camau enfawr yn ddiweddar. Mae canghennau newydd yn cychwyn ar draws y wlad, ac mae ein ymgyrchwyr yn helpu ymgeiswyr etholiadaol y Blaid mewn etholaethau pwysig o Aberconwy i’r Rhondda, ac mae ein ymgyrch #CymruRydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr i weithio gyda’n gilydd i adeiladu’r Gymru rydym eisiau ei gweld. Bydd ein Cynhadledd Genedlaethol yn gweld pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd i benderfynu beth yw ein blaenoriaethau nesaf, i sicrhau bod ein mudiad yn cynrychioli pobl ifanc Cymru, ac i rannu syniadau.
Byddwn yn derbyn cynigion polisi a newidiadau i’r cyfansoddiad tan y 3ydd o Ebrill. Bydd posib gwneud newidiadau i’r cynigion polisi ar y diwrnod, cyn 12.00. E-bostiwch eich cynigion polisi at [email protected]
Yn ogystal â hyn, cynhelir etholiad ar gyfer pob safle ar y pwyllgor gwaith. Gellir darllen am gyfrifoldebau pob aelod yma. Danfonwch faniffesto o ddim mwy na 300 gair at [email protected] cyn y 4ydd o Ebrill.
Mae copiau o’r cyfansoddiad a dogfen ar sut i lunio cynnig eisioes wedi cael eu hanfon atoch ers pythefnos. Mae llety ar gael yn nhai rhai o’n haelodau lleol – bydd angen sach gysgu arnoch. Ebostiwch ni ar unwaith os oes angen llety!
Mae’n hollbwysig eich bod yn cofrestru er mwyn cymryd rhan – gwnewch hynny trwy glicio yma.
Welwn ni chi ar y 9ed!
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter