Gweinidog Prifysgolion Michelle Donelan AS
Ty’r Cyffredin
Llundain
SW1A 0AA
Annwyl weinidog,
Yn ein gwaith fel adran ieuenctid Plaid Cymru, mae Plaid Ifanc yn falch o allu sefyll dros bobl ifanc Cymru a chynrychioli eu diddordebau a’u pryderon.
Mae pryderon wedi codi yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i Lywodraeth y DG gynnig cap ar nifer y myfyrwyr newydd y gall prifysgolion eu recriwtio, a bod y cynnig hwn yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Lloegr ac i mewn i Gymru.
Mae’r polisi hwn nid yn unig yn tanseilio datganoli o fewn y Deyrnas Gyfunol ond hefyd mae’n rhoi’r sector addysg uwch yng Nghymru, sydd eisoes yn fregus, mewn perygl. Mae’n glir bod yna rhestr gynyddol o broblemau yn y sector gan gynnwys y bygythiad diweddar sy’n dod o achosion SARS-CoV-2. Mae colli nifer o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n cael eu derbyn oherwydd bygythiad Brexit, ac yn awr oherwydd mesuriadau diogelwch teithio, yn ergyd mawr sydd nid yn unig yn effeithio ar amrywiaeth gyfoethog ein prifysgolion, ond hefyd yn cyfrannu tuag at wendid ariannol y sector.
Er y gallai fod yn briodol ystyried y polisi yma ar gyfer Lloegr, nid yw’n addas i Gymru. Fe allai’r polisi brofi’n angheuol i’r sector addysg uwch yng Nghymru, ar ôl i adroddiad gan Ganolfan Llywodraethu Cymru ragweld y gallai sefydliadau addysg uwch Cymru wynebu colled o £84-140 miliwn yn y flwyddyn academaidd 2020-2021 - cyn unrhyw ostyngiad yn y nifer o fyfyrwyr o Loegr. Adroddodd Prifysgol Caerdydd ddiffyg cyllidebol o £20 miliwn yn 2019.
Mae angen i’n prifysgolion barhau i fod yno pan ddaw’r pandemig yma i ben. Mae ein cymunedau yn dibynnu ar sefydliadau iach, boed yn wledig neu’n drefol, drwy’r dalent a’r incwm sy’n dod ynghyd â myfyrwyr, yn ogystal ar arloesedd a’r ymchwil all ein gwthio ymlaen fel cenedl.
Mae cymaint o gwestiynau heb gael eu hateb, sy’n gadael ein sefydliadau Cymreig yn fregus. Beth ellir ei wneud i leihau’r effaith o bolisi Llywodraeth y DG i roi cap ar recriwtio myfyrwyr a’u cartref yn Lloegr ar sefydliadau Cymreig? Pa effaith bydd rhoi cap yn cael ar yr anghydraddoldebau ariannol sydd eisoes yn bodoli yn y system, sydd yn anfanteisio llawer o’r sefydliadau yng Nghymru?
Rydym yn eich annog i beidio â gadael syniadau Lloegr i broblemau Lloegr lifo i mewn i Gymru. Mae angen trafodaethau cadarn ac agored gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i atebion ar y cyd.
Yn gywir,
Plaid Ifanc
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod, yn cefnogi Plaid Ifanc ac yn cyd-lofnodi eu llythr agored i Weinidog Prifysgolion y DG, ynglyn a'r cap arfaethedig ar y nifer o fyfyrwyr gall cael eu recriwtio gan prifysgolion. Mae ysgubo datganoli ymaith yn annerbyniol, ac rydym yn mynnu nid yw'r polisi newydd yma yn cynnwys Cymru.