Blwyddyn Newydd Dda!

Plaid Ifanc block at the independence march, Cardiff

 

Wrth i 2019 ddod i ben hoffai bwyllgor gwaith Plaid Ifanc ddiolch i’n holl aelodau a’n cefnogwyr sydd wedi helpu gwneud eleni’n un llwyddiannus i’n mudiad. Fel yr arfer, mae wedi bod yn flwyddyn o adegau uchel ac isel, ond heb waith caled ac ymroddiad ein haelodau ni fyddai ein gwaith yn bosib.

Dechreuom ein blwyddyn yn Aberystwyth ar gyfer gweithdy ymgeiswyr ifanc a gynigiodd cefnogaeth a hyfforddiant i’n haelodau a’u hannog i ystyried bod yn ymgeiswyr mewn etholiadau. Ers hynny, rydym wedi gweld nifer o aelodau Plaid Ifanc yn cael eu dewis fel ymgeiswyr ar gyfer etholiadau ar bob lefel.

Eleni, profom unwaith eto bod Plaid Ifanc yn gallu cael dylanwad positif ar gyfeiriad mwy y blaid pan fabwysiadwyd dau gynnig a basiwyd yn ein cynhadledd flynyddol yn Ebrill gan y blaid yn ei gyfanrwydd. Mae’r ddau gynnig yma sy’n galw am ginio ysgol am ddim ac am gyllid profion anableddau dysgu nawr yn bolisi Plaid Cymru. Yn ogystal â hyn, roedd cynhadledd Plaid Cymru yn gamp fawr i ni eto gyda stondin llwyddiannus, aelodau Ifanc yn ymddangos ar y prif lwyfan i gyflwyno cynigion, a chynnal digwyddiad ymylol lawn ar effeithiau llygredd plastig.

 

Cynghorydd ac Ymgeisydd Plaid Cymru yn Wrecsam yn annerch sesiwn Plaid Ifanc ar blastig.

Ym mis Mai roeddem yn falch o gefnogi ac ymgyrchu dros un o’n haelodau, Carmen Smith, ac ymgeiswyr eraill Plaid Cymru yn Etholiadau Ewrop. Er syndod yr etholiad, ymgyrchom yn galed a helpom sicrhau canlyniad hanesyddol i Blaid Cymru, lle curom y Blaid Lafur mewn etholiad cenedlaethol am y tro cyntaf yn ein hanes.

Nodwedd arall y flwyddyn a fu oedd y gorymdeithiau All Under One Banner dros annibyniaeth i Gymru a gynhaliwyd dros yr haf. Yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr roedd baneri Plaid Ifanc i’w gweld gan bawb; ein gweledigaeth o Gymru Rydd wedi clymu i’n gwerthoedd o oddefgarwch, cynwysoldeb a chydraddoldeb yn glir i bawb gael gweld.

Wrth gwrs, wrth i’r flwyddyn ddod i ben fe wynebom Etholiad Cyffredinol. Roedd yn ysbrydoledig gweld aelodau Plaid Ifanc yn sefyll lan dros eu cymunedau fel ymgeiswyr. O ystyried y tirlun gwleidyddol cymhleth llwyddodd y Blaid i ddal ymlaen i’n pedair sedd, a chwaraeodd Plaid Ifanc ei rhan yn y llwyddiant wrth fireinio ymdrechion mewn etholaethau ymylol. Yng Ngheredigion, cynyddodd ein AS ieuengaf Ben Lake ei fwyafrif o 104 i 6,329. Er y canlyniad siomedig ar lefel DG, mae Plaid Ifanc yn benderfynol o ymladd am yr hyn sy’n iawn yn wyneb gelyniaeth gynyddol o lywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Hoffwn ddymuno blwyddyn newydd dda i’n holl aelodau ac rydym yn edrych ymlaen at fynd a’r maen i’r wal yn 2020. Gydag etholiadau’r Senedd yn 2021 yn gwibio tuag atom, fe fydd Plaid Ifanc yn ymgyrchu’n galed dros ymgeiswyr Plaid Cymru ar draws Cymru er mwyn sicrhau mai Plaid Cymru fydd y blaid i ffurfio llywodraeth yn 2021. Fe fyddai hyn yn ein galluogi i ddechrau taclo materion sy’n herio ein cymdeithas; cynnydd tlodi a’r argyfwng tai, yn ogystal â’n rhoi yn gadarn ar y ffordd tuag at fod yn wlad annibynnol sy’n deg a chyfiawn.

I ddechrau’r flwyddyn byddwn yn cynnal ein Hysgol Aeaf ym Mhontypridd ar y 1af o Chwefror. Mae’r sesiynau wedi’u hadeiladu ar gyfer aelodau hen a newydd; cyflwyniad i wleidyddiaeth weithredol, ac ehangu cyfleoedd ar gyfer rheiny sy’n actif yn barod. Dewch gyda ni, a chawn weld beth allwn gyflawni yn 2020 a thu hwnt gyda’n gilydd.

Ben Lake AS ar stondin Plaid Ifanc yn Freshers Prifysgol Aberystwyth


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.