Amdanom Ni

Amdanom Ni

 


I ddarllen ein cyfansoddiad, clicia yma.
Clici yma am ein polisi diogelu.


 

  1. Rhyddid Cenedlaethol

    Prif nôd Plaid Ifanc yw brwydro dros annibyniaeth i Gymru fel llawn aelod o Undeb Ewropeaidd ddemocrataidd, gymdeithasol ac unedig.

  2. Gweriniaeth

    Rydyn ni’n credu y dyliai pob dinesydd fod yn gwbwl gyfartal ac y dylid ethol phob haen o’n llywodraeth yn ddemocratiadd. Rydyn ni’n credu mewn Gweriniaeth Gymreig gymdeithasol a chwbwl ddemocrataidd.

  3. Democratiaeth gref

    Rydym eisiau i Gymru fod yn genedl lle all bob dinesydd, o 16 mlwydd oed ymlaen, allu pleidleisio a chyfrannogi’n gyflawn i’ n strwythurau democrataidd. Ymgyrchwn dros system etholiadol gyfrannogol lle mae pob pleidlais yn cyfri.

  4. Cyfiawnder Cymdeithasol

    Rydym yn credu y dyliai pawb yn ein cymdeithas allu cyfrannu a dibynnu ar wladwriaeth lês gref ac effeithlon i’n hamddiffyn pan y bod angen.

  5. Gwaith

    Mae gan bobl ifanc yr hawl i waith da sy’n talu cyflog teilwng er mwyn gallu byw.

  6. Addysg am ddim

    Mae addysg yn hawl dynol, a chredwn y dyliai’r wladwriaeth ariannu’r system addysg o’r ysgol feithrin i’r brifysgol. Rydym wedi bod yn rhan greiddiol o nifer o ymgyrchoedd yn erbyn ffioedd ac o blaid addysg am ddim. Mae creu cymdeithas wâr, weithgar a deallus yn hollwbysig i greu democratiaeth aeddfed.

  7. Hawliau

    Gweithiwn i adeiladu cymdeithas sy’n rhydd o batriarchiaeth a brwydrwn dros hawliau cyfartal pobl LHDT. Condemniwn bob ymdrech i bardduo pobl sy’n perthyn i unrhyw lleiafrif, boed hynny’n ethnig neu rhywiol, a gweithwn dros gymdeithas oddefgar sy’n rhydd o ragfarn.

  8. Y Gymraeg

    Credwn mewn adeiladu cymdeithas wirioneddol ddwyiethog lle mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn haeddu statws cwbl gydradd yng Nghymru a dyliai pobl disgybl gael y cyfle i ddysgu ein hiaith genedlaethol yn rhugl.

  9. Trafnidiaeth

    Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop heb un cilometr o reilffordd wedi ei thrydaneiddio, ac eto mae’r cwmnioedd preifat sy’n eu rhedeg wedi sicrhau bod ein rheilffyrdd ymysg y drytaf yn Ewrop i ddefnyddio. Ymgyrchwn dros system drafnidiaeth effeithlon sy’n cysylltu cymunedau ein cenedl yn gyflym ac am bris rhesymol. Cefnogwn brisioedd gostyngiedig i bobl ifanc.

  10. Yr amgylchedd

    Rhaid i’n cymdeithas symud tuag at economi carbon niwtral ac mae gennym rôl bwysig i chwarae er mwyn amddiffyn ein tir oddi wrth fonopoli cwmnioedd mwyno mawrion a’r teulu brenhinol.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.