Roedd tafarn y Cwps dan ei sang ar nos Wener y 5ed o Ragfyr am noson yng nghwmni arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, a Mike Parker, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Ceredigion.
Trefnwyd y noson gan gangen Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Aberystwyth, gyda chroeso yn cael ei ymestyn i fyfyrwyr o’r Brifysgol, a phobl ifanc o’r dref a thu hwnt. Er gwaethaf y tywydd gaeafol, roedd y drafodaeth yn llifo, gyda materion amrywiol- o’r Alban, i addysg, i Aberystwyth, oll yn cael eu trafod.
Mewn ymateb i’r digwyddiad, nododd Mike Parker-
“Mae pleidlais y myfyrwyr am brofi i fod yn hollbwysig yng Ngheredigion, ac roeddwn wrth fy modd i weld gymaint o gefnogwyr Plaid Cymru Ifanc yn dod allan ar noson oer o Ragfyr i drafod gwleidyddiaeth ac yr ymgyrch gydag Leanne a minnau. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio gydag hwy dros am y misoedd nesaf, ac adennill y sedd Seneddol. Mae dyddiau cyffrous ar y gorwel!”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter