Ddoe, cynhaliodd ein Pwyllgor Cenedlaethol eu cyfarfod misol yn Llanelli. Y bwriad oedd i gwrdd ag aelodau gweithgar ein cangen mwyaf newydd, sydd ond ychydig fisoedd oed on eto wedi denu dros 20 o bobl ifanc gweithgar i ymuno â nhw. Aeth rhai o aelodau’r Pwyllgor Cenedlaethol i ddosbarthu taflenni yn Nhycroes tra bu eraill yng nghanol y dref gyda’r gangen leol yn siarad â siopwyr a dangos eu brwdfrydedd i bawb. Er bod stondinau hefyd gyda’r Blaid Lafur a UKIP, roedd ieuenctid a brwdfrydedd y tim lleol yn ddigon i lethu negatifrwydd a thactegau codi ofn rhai o’r pleidiau eraill.
Ymgyrch San Steffan oedd ar flaen yr agenda, yn ogystal â threfnu Cynhadledd Flynyddol Plaid Ifanc ddiwedd mis Mawrth yn Aberystwyth. Am fwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan, cymerwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn yr wythnosau nesaf.
Pob cefnogaeth i ymgyrch Vaughan a’r gangen yn ystod y misoedd nesaf! Cofia, os wyt ti eisiau ymuno â Phlaid Ifanc yn Llanelli, cofia ymweld ag adran ‘Ble ydyn ni?’ ar y wefan hon i ffeindio manylion cyswllt y gangen, a phaid ag anghofio ymweld â’r adran ‘Ymuna â ni’ i dderbyn gwybodaeth ac i ymuno a Phlaid Ifanc.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter