Cyfweliad gan Delyth Jewell AC
Bu geni Delyth Jewell yng Nghaerffili a’i magu yn Ystrad Mynach gan fynychu Ysgol Bro Allta ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio gyda BA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a Gradd Feistr mewn astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Rhydychen. Wedi gadael y Brifysgol aeth i weithio fel ymchwilydd seneddol I Blaid Cymru yn San Steffan, yno bu iddi dderbyn gwobr yn 2014 fel ‘Ymchwilydd Seneddol y Flwyddyn’ Mae Delyth hefyd wedi gweithio i elusennau megis ‘Cyngor ar bopeth (Citzens Advice)’ ac ActionAid gan ymwneud a materion megis Datblygiad Rhyngwladol a Hawliau Merched. Does dim dadlau felly mai Delyth Jewell yw’r gwleidydd perffaith i’n helpu ni ym Mhlaid Ifanc i ysbrydoli menywod eraill yng Nghymru i ymwneud a gwleidyddiaeth yn y gobaith y bydd mwy o fenywod yn sefyll mewn etholiadau, yn lleol neu’n genedlaethol, yn y dyfodol.